Chwi, ffynnonau bywiol hyfryd,
Craig agorwyd ar y pren,
I iachau archollion diriaid
Dynion aflan îs y nen;
Dyma'r euog
Sydd mewn eísieu'r dyfroedd byw.
Duw, nid oes ond ti dy hunan
Ddaw â'm henaid llesg i'r lan,
Sydd yn suddo mewn dyfnderoedd
Dyfnion, tywyll, yn mhob man:
Gwna i mi gredu -
Credu a cherdded ar y môr.
Mae dy Ysbryd di yn fywyd,
Mae dy Ysbryd di yn dân;
Fe sy'n dwyn yr holl fforddolion
Cywir, sanctaidd, pur, yn mlaen;
Cyfarwyddwr
Pererinion, arwain fi.
William Williams 1717-91
Tonau [878747]: gwelir: Duw nid oes ond Ti dy Hunan Iesu nid oes ond dy hunan Mae dy Ysbryd Di yn fywyd Mae gelynion i mi'n chwerw Rho oleuni rho ddoethineb |
Ye, lively, delightful springs,
A Rock was opened on the tree,
To heal wicked wounds
Of unclean men under heaven;
Here is the guilty one
Who is in need of the living waters.
Go, there is none but thee thyself
Who will bring my feeble soul up,
Which is sinking in depths
Deep, dark, in every place:
Make me believe -
Believe and walk on the sea.
Thy Spirit is a life,
Thy Spirit is a fire;
He is leading all true,
Holy, pure wayfarers onwards;
Instructor
Of pilgrims, guide me!
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|